Josua 15:14-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.

15. Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath‐Seffer.

16. A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath‐Seffer, ac a'i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig.

17. Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig.

18. A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a'i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?

19. A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a'r ffynhonnau isaf.

20. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda, wrth eu teuluoedd.

21. A'r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Jwda, tua therfyn Edom, ar du y deau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,

22. Cina hefyd, a Dimona, ac Adada,

23. Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan,

24. A Siff, a Thelem, a Bealoth,

Josua 15