Josua 15:1-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd tua therfyn Edom: anialwch Sin, tua'r deau, oedd eithaf y terfyn deau.

2. A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli, o'r graig sydd yn wynebu tua'r deau.

3. Ac yr oedd yn myned allan o'r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa.

4. Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau.

5. A'r terfyn tua'r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a'r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen.

6. A'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth‐Hogla, ac yn myned o'r gogledd hyd Beth‐Araba; a'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben.

7. A'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor, a thua'r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i'r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En‐semes, a'i gwr eithaf sydd wrth En‐rogel.

8. A'r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua'r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua'r gogledd.

9. A'r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath‐jearim.

10. A'r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua'r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth‐semes, ac yn myned i Timna.

11. A'r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tua'r gogledd: a'r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baala, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.

12. A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a'i derfyn. Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch, wrth eu teuluoedd.

13. Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr Arglwydd wrth Josua; sef Caer‐Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.

14. A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.

15. Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath‐Seffer.

16. A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath‐Seffer, ac a'i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig.

17. Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig.

18. A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a'i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?

19. A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a'r ffynhonnau isaf.

Josua 15