Josua 13:8-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Gyda'r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a'r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua'r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt;

9. O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:

10. A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;

11. Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha;

12. Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a'u trawsai hwynt, ac a'u gyrasai ymaith.

13. Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na'r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a'r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn.

14. Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.

15. A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd:

16. A'u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a'r holl wastadedd wrth Medeba;

17. Hesbon a'i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth‐Baalmeon;

18. Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath;

Josua 13