Josua 13:30-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. A'u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas;

31. A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd.

32. Dyma y gwledydd a roddodd Moses i'w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain.

33. Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.

Josua 13