22. Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â'r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt.
23. A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a'i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a'u trefi.
24. Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;
25. A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba;
26. Ac o Hesbon hyd Ramath‐Mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;
27. Ac yn y dyffryn, Beth‐Aram, a Beth‐Nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a'i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du y dwyrain.