Josua 13:13-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na'r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a'r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn.

14. Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.

15. A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd:

16. A'u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a'r holl wastadedd wrth Medeba;

17. Hesbon a'i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth‐Baalmeon;

18. Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath;

19. Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sarethsahar, ym mynydd‐dir y glyn;

Josua 13