1. A Phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i'w feddiannu.
2. Dyma y wlad sydd eto yn ôl: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri,
3. O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua'r gogledd, yr hwn a gyfrifir i'r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a'r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:
4. O'r deau, holl wlad y Canaaneaid, a'r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn yr Amoriaid:
5. A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal‐Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath.
6. Holl breswylwyr y mynydd‐dir o Libanus hyd Misreffoth‐maim, a'r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti.
7. Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i'r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasse.
8. Gyda'r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a'r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua'r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt;
9. O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:
10. A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;
11. Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha;
12. Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a'u trawsai hwynt, ac a'u gyrasai ymaith.
13. Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na'r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a'r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn.