Josua 12:5-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a'r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon.

6. Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a'u trawsant hwy: a Moses gwas yr Arglwydd a'i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.

7. Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o'r tu yma i'r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a'i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau;

8. Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a'r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid:

9. Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un;

10. Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un;

11. Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un;

12. Brenin Eglon, yn un; brenin Geser, yn un;

Josua 12