1. Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o'r tu hwnt i'r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a'r holl wastadedd tua'r dwyrain:
2. Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;
3. Ac o'r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth‐jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth‐Pisga: