14. A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a'r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.
15. Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o'r hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd i Moses.
16. Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a'r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a'r dyffryn, a'r gwastadedd, a mynydd Israel, a'i ddyffryn;
17. O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a'u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a'u rhoddodd i farwolaeth.
18. Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.
19. Nid oedd dinas a'r a heddychodd â meibion Israel, heblaw yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel.
20. Canys o'r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
21. A'r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o'r mynydd‐dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Jwda, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a'u difrododd hwynt a'u dinasoedd.
22. Ni adawyd un o'r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gasa, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.
23. Felly Josua a enillodd yr holl wlad, yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses; a Josua a'i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ôl eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A'r wlad a orffwysodd heb ryfel.