13. Ond ni losgodd Israel yr un o'r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.
14. A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a'r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy รข min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.
15. Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o'r hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd i Moses.
16. Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a'r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a'r dyffryn, a'r gwastadedd, a mynydd Israel, a'i ddyffryn;