Josua 10:4-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Deuwch i fyny ataf fi, a chynorthwywch fi, fel y trawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.

5. Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant, ac a ddaethant i fyny, sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon, hwynt‐hwy a'u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.

6. A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i'r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd, a chynorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd‐dir, a ymgynullasant i'n herbyn ni.

7. Felly Josua a esgynnodd o Gilgal, efe a'r holl bobl o ryfel gydag ef, a'r holl gedyrn nerthol.

8. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di.

9. Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal.

10. A'r Arglwydd a'u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a'u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth‐horon, ac a'u trawodd hwynt hyd Aseca, ac hyd Macceda.

11. A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yng ngoriwaered Beth‐horon, yr Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o'r nefoedd hyd Aseca; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na'r rhai a laddodd meibion Israel â'r cleddyf.

12. Llefarodd Josua wrth yr Arglwydd y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.

13. A'r haul a arhosodd, a'r lleuad a safodd, nes i'r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.

14. Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o'i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn: canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.

15. A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i'r gwersyll i Gilgal.

16. Ond y pum brenin hynny a ffoesant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda.

Josua 10