Joel 1:5-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min.

6. Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir; dannedd llew yw ei dannedd, a childdannedd hen lew sydd iddi.

7. Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a'm ffigysbren a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.

8. Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid.

9. Torrwyd oddi wrth dŷ yr Arglwydd yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod: y mae yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, yn galaru.

10. Difrodwyd y maes, y ddaear a alara; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd: sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew.

11. Cywilyddiwch, y llafurwyr; udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes.

Joel 1