3. Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil.
4. Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?
5. Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.
6. Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o'i lle, fel y cryno ei cholofnau hi.
7. Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.
8. Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr.
9. Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau.
10. Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif.
11. Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef.
12. Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a'i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?
13. Oni thry Duw ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder.
14. Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?
15. I'r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â'm barnwr.
16. Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd.
17. Canys efe a'm dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos.