12. Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a'i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?
13. Oni thry Duw ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder.
14. Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?
15. I'r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â'm barnwr.
16. Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd.
17. Canys efe a'm dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos.
18. Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a'm lleinw â chwerwder.
19. Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi?
20. Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a'm barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a'm barn yn gildyn.
21. Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes.
22. Dyma un peth, am hynny mi a'i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a'r annuwiol.
23. Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed.
24. Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe?