Job 7:15-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na'm hoedl.

16. Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid รข mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau.

17. Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno?

18. Ac ymweled ag ef bob bore, a'i brofi ar bob moment?

19. Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn?

20. Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun?

Job 7