Job 6:23-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn?

24. Dysgwch fi, a myfi a dawaf: a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais.

25. Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi?

26. Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi รข geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt?

27. Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i'ch cyfaill.

28. Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd.

29. Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.

30. A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?

Job 6