Job 5:4-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd.

5. Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a'r sychedig a lwnc eu cyfoeth.

6. Er na ddaw cystudd allan o'r pridd, ac na flagura gofid allan o'r ddaear:

7. Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny.

8. Eto myfi a ymgynghorwn รข Duw: ac ar Dduw y rhoddwn fy achos:

9. Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi:

10. Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd:

11. Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth.

12. Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.

Job 5