Job 5:23-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi.

24. A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â'th drigfa, ac ni phechi.

25. A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had, a'th hiliogaeth megis gwellt y ddaear.

26. Ti a ddeui mewn henaint i'r bedd, tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser.

27. Wele hyn, ni a'i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.

Job 5