Job 5:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Galw yn awr, od oes neb a etyb i ti, ac at bwy o'r saint y troi di?

2. Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen a ladd yr annoeth.

3. Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio: ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth.

4. Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd.

5. Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a'r sychedig a lwnc eu cyfoeth.

6. Er na ddaw cystudd allan o'r pridd, ac na flagura gofid allan o'r ddaear:

7. Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny.

8. Eto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar Dduw y rhoddwn fy achos:

9. Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi:

10. Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd:

11. Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth.

12. Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.

13. Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir.

14. Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos.

15. Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.

Job 5