Job 42:14-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren‐happuc.

15. Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a'u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr.

16. A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o'i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth.

17. Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.

Job 42