Job 42:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,

2. Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt.

3. Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn.

Job 42