Job 41:29-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.

30. Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.

31. Efe a wna i'r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.

32. Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn.

33. Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn.

Job 41