Job 40:20-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes.

21. Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd.

22. Coed cysgodfawr a'i gorchuddiant â'u cysgod: helyg yr afon a'i hamgylchant.

23. Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe'r Iorddonen i'w safn.

24. A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?

Job 40