Job 40:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd,

2. Ai dysgeidiaeth yw ymryson â'r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.

3. A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,

4. Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.

5. Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.

6. A'r Arglwydd a atebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd,

Job 40