Job 40:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd,

2. Ai dysgeidiaeth yw ymryson â'r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.

3. A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,

4. Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.

Job 40