1. Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,
2. Pe profem ni air wrthyt, a fyddai blin gennyt ti? ond pwy a all atal ei ymadroddion?
3. Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu.
4. Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu.
5. Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd รข thi, a chyffroaist.
6. Onid dyma dy ofn di, dy hyder, perffeithrwydd dy ffyrdd, a'th obaith?
7. Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith?