Job 39:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Efe a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad.

8. Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef, ac efe a chwilia am bob glaswelltyn.

9. A gytuna yr unicorn i'th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di?

10. A rwymi di unicorn â'i did mewn rhych? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di?

11. A ymddiriedi wrtho, am fod ei gryfder yn fawr? a adewi di dy lafur iddo?

Job 39