Job 38:38-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

38. Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd?

39. A elli di hela ysglyfaeth i'r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod,

40. Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn?

41. Pwy a ddarpar i'r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar Dduw, gwibiant o eisiau bwyd.

Job 38