Job 38:33-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?

34. A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?

35. A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni?

36. Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i'r galon?

Job 38