Job 38:30-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd.

31. A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion?

32. A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a'i feibion?

33. A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?

Job 38