Job 38:23-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel?

24. Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?

25. Pwy a rannodd ddyfrlle i'r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau,

26. I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo?

27. I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu?

28. A oes dad i'r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?

Job 38