Job 37:2-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o'i enau ef.

3. Efe a'i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a'i fellt hyd eithafoedd y ddaear.

4. Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef.

5. Duw a wna daranau â'i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni.

Job 37