Job 36:22-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Wele, Duw trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe?

23. Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd?

24. Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion.

25. Pob dyn a'i gwêl; a dyn a'i cenfydd o bell.

26. Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.

27. Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth;

28. Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth.

29. Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef?

30. Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr.

31. Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth.

32. Efe a guddia y goleuni â chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt.

33. Ei dwrf a fynega amdano, a'r anifeiliaid am y tarth.

Job 36