17. Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot.
18. Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith รข'i ddyrnod: yna ni'th wared iawn mawr.
19. A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth.
20. Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle.
21. Ymochel, nac edrych ar anwiredd: canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd.
22. Wele, Duw trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe?
23. Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd?