13. Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt.
14. Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a'u bywyd gyda'r aflan.
15. Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder.
16. Felly hefyd efe a'th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster.
17. Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot.
18. Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â'i ddyrnod: yna ni'th wared iawn mawr.
19. A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth.
20. Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle.
21. Ymochel, nac edrych ar anwiredd: canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd.
22. Wele, Duw trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe?
23. Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd?
24. Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion.
25. Pob dyn a'i gwêl; a dyn a'i cenfydd o bell.
26. Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.
27. Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth;