Job 36:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd,

2. Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw.

3. O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i'm Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder.

4. Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi.

5. Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe.

Job 36