4. Myfi a atebaf i ti, ac i'th gyfeillion gyda thi.
5. Edrych ar y nefoedd, a gwêl; ac edrych ar y cymylau, y rhai sydd uwch na thi.
6. Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef?
7. Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di?
8. I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all ryw beth.
9. Gan faint y gorthrymder, hwy a wnânt i'r gorthrymedig lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn.
10. Ond ni ddywed neb, Pa le y mae Duw, yr hwn a'm gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?