Job 35:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,

2. A gyfrifaist di yn uniawn ddywedyd ohonot, Y mae fy nghyfiawnder i yn fwy na'r eiddo Duw?

3. Canys dywedaist, Pa les a wna hynny i ti? pa beth a enillaf, er fy nglanhau oddi wrth fy mhechod?

4. Myfi a atebaf i ti, ac i'th gyfeillion gyda thi.

5. Edrych ar y nefoedd, a gwêl; ac edrych ar y cymylau, y rhai sydd uwch na thi.

6. Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef?

Job 35