Job 34:28-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol.

29. Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig:

30. Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl.

31. Ond wrth Dduw, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd;

Job 34