Job 32:9-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn.

10. Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl.

11. Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â'ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau.

12. Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef:

13. Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: Duw sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn.

Job 32