Job 31:8-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yna heuwyf fi, a bwytaed arall; ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i.

9. Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog;

10. Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi.

11. Canys ysgelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw i'w gosbi gan farnwyr.

12. Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio, ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth.

13. Os diystyrais achos fy ngwas a'm gwasanaethferch, pan ymrysonent â mi;

Job 31