Job 31:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Os gwyrodd fy ngherddediad allan o'r ffordd; a myned o'm calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo:

8. Yna heuwyf fi, a bwytaed arall; ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i.

9. Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog;

10. Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi.

Job 31