Job 31:4-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre?

5. Os rhodiais mewn oferedd, ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo;

6. Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned Duw wybod fy mherffeithrwydd.

7. Os gwyrodd fy ngherddediad allan o'r ffordd; a myned o'm calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo:

8. Yna heuwyf fi, a bwytaed arall; ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i.

9. Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog;

10. Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi.

11. Canys ysgelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw i'w gosbi gan farnwyr.

12. Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio, ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth.

13. Os diystyrais achos fy ngwas a'm gwasanaethferch, pan ymrysonent â mi;

14. Pa beth gan hynny a wnaf pan godo Duw? a phan ymwelo efe, pa beth a atebaf iddo?

15. Onid yr hwn a'm gwnaeth i yn y groth, a'i gwnaeth yntau? ac onid yr un a'n lluniodd yn y bru?

16. Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd, ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio;

17. Ac os bwyteais fy mwyd yn unig, ac oni fwytaodd yr amddifad ohono;

18. (Canys efe a gynyddodd gyda mi, fel gyda thad, o'm hieuenctid; ac o groth fy mam mi a'i tywysais hi;)

19. Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a'r anghenog heb wisg:

20. Os ei lwynau ef ni'm bendithiasant, ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i;

Job 31