26. Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a'r lleuad yn cerdded yn ddisglair;
27. Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw:
28. Hyn hefyd fuasai anwiredd i'w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn Dduw uchod.
29. Os llawenychais i am drychineb yr hwn a'm casâi, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo:
30. (Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.)
31. Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o'i gnawd ef! ni ddigonir ni.
32. Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i'r fforddolion.
33. Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes;
34. A ofnais i dyrfa luosog, neu a'm dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o'm drws?
35. O am un a'm gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i'r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o'm gwrthwynebwr lyfr.
36. Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi.
37. Mynegwn iddo rifedi fy nghamre; fel tywysog y nesawn ato.
38. Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cyd-wylo;
39. Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian, ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef:
40. Tyfed ysgall yn lle gwenith, a bulwg yn lle haidd. Diweddwyd geiriau Job.