Job 31:21-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad, pan welwn fy nghymorth yn y porth:

22. Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd, a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal.

23. Canys ofn dinistr Duw oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef.

24. Os gosodais fy ngobaith mewn aur; ac os dywedais wrth aur coeth, Fy ymddiried wyt;

25. Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, ac oblegid i'm llaw gael llawer;

26. Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a'r lleuad yn cerdded yn ddisglair;

27. Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw:

28. Hyn hefyd fuasai anwiredd i'w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn Dduw uchod.

29. Os llawenychais i am drychineb yr hwn a'm casâi, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo:

30. (Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.)

31. Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o'i gnawd ef! ni ddigonir ni.

32. Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i'r fforddolion.

33. Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes;

34. A ofnais i dyrfa luosog, neu a'm dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o'm drws?

35. O am un a'm gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i'r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o'm gwrthwynebwr lyfr.

36. Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi.

Job 31