1. Myfi a wneuthum amod â'm llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn?
2. Canys pa ran sydd oddi wrth Dduw oddi uchod? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o'r uchelder?
3. Onid oes dinistr i'r anwir? a dialedd dieithr i'r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd?
4. Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre?