6. I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau.
7. Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl.
8. Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na'r ddaear oeddynt.
9. Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt.
10. Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb.
11. Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a'm cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i.
12. Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i'm herbyn ffyrdd eu dinistr.
13. Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt.
14. Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith.
15. Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a'm hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl.
16. Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof.