Job 30:11-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a'm cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i.

12. Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i'm herbyn ffyrdd eu dinistr.

13. Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt.

14. Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith.

15. Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a'm hiachawdwriaeth a รข heibio fel cwmwl.

16. Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof.

Job 30