Job 30:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i'w gosod gyda chŵn fy nefaid.

2. I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy.

3. Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i'r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt:

4. Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt.

5. Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;)

6. I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau.

7. Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl.

8. Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na'r ddaear oeddynt.

9. Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt.

10. Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb.

11. Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a'm cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i.

12. Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i'm herbyn ffyrdd eu dinistr.

13. Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt.

Job 30